Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amcanion goreu ydynt. Yr oedd Dafydd Evans yn llawer llai dyn o ran enaid a mantais na channoedd o honynt hwy, ond er hynny, nid aeth neb i'r byd tragwyddol a gafodd gymaint o groeso yno ag efe. Yn gyffredin, hiraethu ar ol anwyliaid y byddwn ni yma; ond gyda golwg ar Dafydd Evans, yr wyf fi yn tueddu i feddwl fod y nefoedd yn hiraethu ymlaen llaw am dano ef. A dyna hiraeth gwerth byw am fil o flyn- yddau er ei fwyn. Hiraeth angel! Beth yw hwnnw? Awydd gogoneddus am roddi pluen Paradwys yn aden y dyn da. Mae yn ddiameu fod yna filoedd o angylion wedi eu creu er pan fu Dafydd Evans farw, ond hawdd yw credu iddynt, pan ddeallasant ei fod ef yn un o'r bro- dorion, redeg ato i holi a oedd llawer o rai tebyg iddo yn dilyn.

Wel, mae'r darllennydd am lefain, bellach, fy mod wedi anghofio Capelulo. Mae hynny yn ymyl bod yn wir, hwyrach. Cyffwrdd ag enw yr hen bregethwr fu yr achos o hynny. Nid wyf yn gwybod i neb dalu un math o'r peth hwnnw a elwir yn compliment iddo: os felly, maddeuer i mi, ynte, wrth basio fel hyn, am gynnyg, o leiaf, daflu " llygad y dydd" ar fedd Dafydd Evans y Pandy.