Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd y dorf liosog yn un wên siriol a boddhaus o ben i ben.

"Wel, Dafydd," meddai—dim son am Mr. Cadeirydd "taswn i'n gwybod dy fod ti am y'ngalw i i'r fan yma o flaen cymin o bobol mor grand a sbriws yr olwg arnyn nhw, mi faswn wedi twtio tipyn chwaneg arna i fy hun. Mae gen i well côt na hon adra yn y siamber acw, wyddost (chwerthin); ac mae gen i well trowsus yno—na, fyth o'r fan i, yr oedd yna bo windos ymhena glinia hwnnw, ac mi rydw i wedi ei anfon o at Robat Elis y Teiliwr, er mwyn cael shettars arnyn hw (chwerthin anferth). Cyn i mi fynd yn ddirwestwr, mewn sgyffl â dyn y byddwn i yn cael tylla yn y mhenna glinia, ond yrwan mewn sgyfil a'r Brenin Mawr yr ydw i yn i cael nhw (cymeradwyaeth). Pan yn aros ynghymydogaeth Calcutta hefo'r armi am rai misoedd, mi gefais ganiatâd un diwrnod i gael mynd am dro i'r dre, a chyn gymin oedd fy awydd i am ddiod feddwol, be wnes i ond mynd a nghôt sowldiwr i'r pôn, gan feddwl y baswn i wedi cael pres gan rywun i'w thynnu hi allan at y nos. Ches i ddim. Mi es yn fy ol i'r camp yn llewys y'nghrys, ac ar unwaith dyna fi yn cael fy fflogio nes oedd y'nghefn noeth i yn un lli o waed. Wel, hogia anwyl Gwytherin, tendiwch chi fod yna rai o hona chi, drwy marfer efo'r hen feuden gin y ddiod yna, wedi mynd a'ch siwtia—ych cymeriada—i siop fawr Gehenna, ac wedi eu ponio nhw i'r diafol. Mae dydd y Farn yn dwad, ac mae arna i ofn y bydd yn rhaid i rai o hona chi fynd yno heb yr un gôt, ac y bydd y Judge mawr, wrth eich gweled chi yn meddwl rhyfygu mentro gaea ofnadwy