Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tragwyddoldeb heb ddigon o ddillad, yn gofyn i chi sut y daethochi o'i flaen o heb yr un wisg. Mi wyddoch y risylt: cael eich curo â llawer ffonnod. Ond os yn y pôn y mae eich siwt chi heddyw, ac os nad oes gyno chi fodd i'w chael allan, ewch yn ditotals, ac ar ol hynny ewch at Iesu Grist, ac mi gewch gyno fo—nid benthyg—rhoi am ddim, a hynny am byth y bydd o sofrins mlynion o Fanc y Government fildiodd o'i hun ar Galfaria, a phan glyw Satan swn y rheini'n tincian oddiwrtho fo ar ych dwylo chi, mi ry'r hen was y siwt i fyny mewn un chwinciad (cymeradwyaeth anferth). Mae dim ond swn sofrins mawr yr Iawn yn tincian yn ddigon i brynnu'r creadur mwya aflan mewn bod. Dyma i chi'r hen Gapelulo, feddwodd cyhyd ag oes y rhan fwya sydd yma, yn dyst. (cymeradwyaeth hirfaith; rhai yn wylo, ac er- aill yn gwaeddi "Amen" a "Bendigedig yr hen Domos.")

"Wel, mi 'rydach chi yn rhoi canmolineth ddychrynllyd i mi; ac mae gormod o ganmoliaeth, wyddoch, fel gormod o gwrw, yn codi i'r pen yn fuan iawn (chwerthin). Felly, rhaid i mi edrach ati hi, achos mi rydw i mewn lle perig iawn. Wel di, Dafydd (gan droi at y cadeirydd), mi ydw i yn dy godi di i fod yn Gommander-in-Chief i edrach ar ol traed a dwylo, a chega pobol Gwtherin yma, nes y bydda i wedi ista i lawr. 'Rwan na i ddim deyd ond un gair eto. Mae arna i eisio i chi sydd yn ddirwestwrs yn barod, fod yn ddirwestwrs iawn; nid yn unig yn cadw yn glir rhag yfed y drwyth felldigedig, ond yn cadw yn ffâr ahed oddiwrth bob math o chwant am dani hi.