Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi rydw i yn cofio bod yn mynd heibio yr Eil o Man mewn man-i-wâr ryw dro, ac mi 'roedd yn perthyn i ddwylo y llong hen blât o gwc—un melldigedig am licars—mi roedd i lygid o fel peli inja rybar, 'i glustia fo fel dail cabaits, ac mi 'roedd 'i drwyn o mor hir, Dafydd, fel y basa fo yn cymyd pum munud i dy basio di (chwerthin mawr). Wel, wrth i ni basio yr Eil o Man, mi ddeydodd yr hen ffelo y bu'r Werddon a Sgotland yn ffrauo riw dro yng nghylch perthyn i brun o honynhw yr oedd yr ynys. Mi ddoth yna Frenshman hir i ben ymlaen i dorri'r ddadl, a dyma fel y daru o oedd ceisio dwy neidar a rhoi un ym mhridd Sgotland a'r llall ymhridd y Werddon, ac yn mhrun bynnag ohonynhw (cofiwch chi fod nadroedd yn yr Eil o Man) y bydda i'r neidar fyw y wlad honno fydda pia'r ynys. Yn naear Sgotland y bu'r neidar fyw, ac felly mi setlwyd y cwestiwn. Wel, mhobol i, mae yna neidar y tu fewn i lawer o hono ninna. Tydi peidio cymyd cwrw a licars ddim yn ddigon, ond mae eisio i'r blys am danyn nhw beidio byw y tu fewn i ni (cymeradwyaeth). Os ydi dyn wedi rhoi i fyny yfed diod feddwol, ac eto yn para i fod mewn chwant am dani hi, mae o'n pechu; mae yna sarff yn ei enaid o. Wrth ddeyd peth fel yna, tydw i ddim yn dal mod i yn deyd dim byd newydd. Mae'r Pregethwr mwya fu yn y byd yma rioed—Iesu Grist-wedi ei ddeyd o o mlaen i. Darllennwch chi beth mae o'n i ddeyd ar y geiria Na wna odineb yn y Bregeth ar y Mynydd.

'Rwan, os yda chi am fod yn ddirwestwrs, byddwch felly hyd farw. Mi 'rydw i wedi pen-