Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

derfynu bod felly, 'doed a ddel. Fydda i ddim yn hir eto cyn y bydda i farw, ond pryd bynnag y cymer hynny le, mae arna i eisio marw yn ditotal (cymeradwyaeth). Mi glywis i am un o'r officers gafodd ergyd farwol ym matl y Neil, fod o wedi disgyn ar y dec, ac fod yna lot wedi rhedeg ato fo, i feddwl mynd a fo i lawr i'r caban, ac i fod ynta wedi deyd wrthynhw am beidio ei symud o. Mi 'rydw i am farw ar y dec,' medda fo. Dyna fel yr ydw inna yn deyd, bryd bynnag y daw fy nhro i farw, mi 'rydw i wedi penderfynu gneyd ynghanol y fatl; a phan fydd sowldiwrs mawr Brenin Dychryniadau wedi taflu fatal shot i fewn i 'nghalon i, mae'r hen Gapelulo yn bownd o fynnu cael marw ar y dec.'

Gyda dweyd hynyna eisteddodd yr areithiwr doniol a digrif i lawr yng nghanol cymeradwyaeth na bu ei hail i areithiwr dirwest yn unman. Yn gymysg a'r gwenau a'r chwerthin, fe gollwyd llawer deigryn yn y cyfarfod hwn wrth wrando yr hen filwr yn siarad.