Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVII. YN Y CYFARFOD GWEDDI.

DIGWYDDAI Tomos Williams fod unwaith yn dechreu cyfarfod i weddio. Wrth wneyd hynny, byddai yn ddigon call, gan mai darllennwr lled drwsgl oedd, i ddewis cyfran o'r Beibl y byddai efe yn ddigon cyfarwydd â hi-efallai, yn ei medru yn hollol rwydd i'w darllen. Fel rheol, ychydig o adnodau a ddarllennai; salm, neu ddameg ferr, bron bob amser. Wedi darllen yr adnod gyntaf o ddameg priodas mab y brenin, aeth ymlaen,—

Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i'w fab." Yma meddai, "Dwn i ddim pa frenin oedd hwn, wyddoch chwitha ddim chwaith; felly dyna ni ar yr un lefel a'n gilydd am unwaith, beth bynnag. 'Dwn i ar y ddaear beth sydd i'w feddwl wrth' wneyd priodas.' Tasa fo'n deyd 'gneyd swper' mi faswn yn dallt. Ond waeth befo fo. Mi wnawn ni ei adael o fel y mae o; mae'r stori'n gwella wrth fynd yn ei blaen. Yr ydach chi'n gweld yn ol yr adnod nesa, fod y brenin yma yn gyrru gweision i nol y rhai oedd wedi cael gwadd i'r briodas, ac mi ddaru rheini gau dwad. Welsoch chi 'rioed ffashiwn beth! Y Brenin yn gyrru y royal carriage, a dau was lifra, a phâr o gyffyla crand, a dyna'r dynion yma yn ysgwyd eu penna wedi'r cwbwl. Yn y bedwerydd mae o'n gyrru second invitation' allan ac yn deyd, 'Wele, parotoais fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth