Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd barod.' Dyna fo yn y fan yna yn deyd sut ginio oedd gyno fo, a pha sort o gigoedd oedd ar y bwrdd. Ond troi trwyna ddaru nhw ar y cwbwl i gyd. Rhaid fod yna riw ddiffyg treuliad ofnadwy ar y bobol yma, ne fasa nhw byth yn gwrthod sbrèd ardderchog fel hyn. Faswn i byth yn gwrthod rôst biff yn cael ei gynnyg gan frenin, beth bynnag. Ar amgylchiada fel yma, dwn i ddim a faswn i yn gwbod y gwahaniaeth rhwng f'enaid a fy stumog ai peidio. Ond dyma i chi bobol na fyne nhw ddim gwrando ar weision y brenin. Mynd i ffwr ddaru'r tacla sychion a hunanol yma, un i'w faes, ac arall i'w fasnach '—y ffarm a'r siop —swêj a mincieg oedd fwya ar feddwl y rhain. Taswn i yn cael gwadd oddiwrth frenin, hyd yn oed tasa'r indiagestion, y clwy melyn, y ddanodd, y crycymala, dolur gwddw, loc jo, ne'r cwbwl hefo'u gilydd, arna i, nes na laswn i ddim yn medryd profi 'run tamad o'i railings o, mi faswn i yn ufuddhau, tasa ddim ond er mwyn cael gweld ei blas o, gweld ei feibion a'i ferchaid crand o, gweld y diwcs a'r lords fydda. o gwmpas ei fwrdd o, a chael clywed y miwsig, a gweld y riolti mawr fydda yno. Cyn saffed a bod ni yma, bobol, mae'n werth i ni drio mynd i'r nefoedd tasa ni'n gneyd dim ond ista i dragwyddoldeb yno. Mewn difri, mae hi wedi dwad yn gwestiwn prun well gyno ni, y ffarm ynta'r drydydd nef—clorian y siop ynta clorian y Farn?"

Wedi dod at y nawfed adnod, "Ewch gan hynny i'r prifffyrdd, &c.," dywedodd,—" Wedi i'r ffyliaid yna wrthod, dyma fo'n gyrru gweision lifra allan i'r strydoedd, i wâdd y stelcars,