Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r segurwrs penna, a phob math o rabscaliwns, i ddwad i mewn. Chawson nhw ddim ond prin amser i molchi a newid 'i dillad nad oedd cloch y cinio yn ringio yn 'i clustia. Dyna fel y mae hi dan drefn yr efengyl wyddoch chi, hen goblars duon a thincars racsiog o Gymru yma yn cael reidio drwy Lyn Cysgod Angau yng 'nghoach fawr y brenin ei hun! Dyna'r' 'goach' y bydd yr hen Gapelulo, druan, yn mynd iddi hi yn union deg, bellach; ond, hitiwch befo, mi fydd y dreifars glân, gwynion—byddigions mawr y byd ysbrydol yn capio ac yn bowio am y gora iddo fo, wrth ddeud, Take your seat, Thomas Williams.


"Hogia anwyl, sy yma 'n gwrando arna i, fydda ddim yn well i chi newid ych beat, a dwad i fewn i stafell y brenin? Mi wyddoch y bydd y doctors yma'n amal iawn, yn enwedig os bydd rhai yn diodda o dan wendid ne'r diciâu, yn pyrsgreibio iddynhw i fynd i awyr iach y mynyddoedd. Yr eisio fydd eisio change of air, medda nhw. Mae yna lawer ohono chwitha wedi pechu am flynyddoedd nes mynd yn bell i'r diciâu. Da chi, fechgyn, dowch allan o'r tafarna afiach, ac o'r cypeini drwg yna. Mae y Doctor mawr ei hunan, na chollodd o gase erioed, yn ricomendio change of air i chi. Esgynnwch i fynydd yr Arglwydd. Mae yno 'babell fydd yn gysgod rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag gwlaw.' Ewch am dro ambell waith hyd lan y môr o wydyr sydd yn debyg i grystal, ac mi ffeiai chi na ddowch chi ddim odd'no heb fod gyno chi ddigon o wrid ar ych gw'neba i neyd pob angel yn jelws. Hen sowldiwr ydi pechadur wedi cael