Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei glwyfo yn Waterlŵ fawr pechod. Yn y fatl yna y cafodd o dorri ei goes, fel na fedrodd o ddim cerdded yn hanner iawn byth ar ol hynny. Ond, bobol bach, raid i ni ddim byd ond mynd am change of air tua Chalfaria, na chawn ni goesa cyfa mewn dau funud. Nid rhiw batshio dyn i fyny hefo coesa pren a phetha felly, mae'r efengyl, wyddoch chi. Dim byd yn debyg! Welwch chi mor sionc ydi'r rhai gafodd eu mendio dani hi: 'Y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant! Dyna chi wedi cael mewn 'chydig iawn o le hanes y bobol y mae

Eu maglau wedi eu torri,
A'u traed yn gwbwl rydd.'

"O ddifri calon, pam na ddowch chi i mewn i'r swper-i mewn at fwrdd mawr yr efengyl. Mae yna son yn rhwla am gymell i ddwad i mewn. Mae gan drugaredd Duw hiraeth am weld pob sêt wrth y bwrdd wedi cael ei chymyd. Yn wir, mae brestia trugaredd mor llawn, nes y mae hi mewn poen os na bydd rhywun yn tynnu ynddynhw o hyd. Glywch chi hi yn cwyno yn rhywle,—Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.'"

Mae'n dra thebyg y byddai Tomos Williams, weithiau, yn cael ei ryddid i dreulio yr oll o gyfarfod i weddio ei hun, ac iddo wneyd hynny o dan yr amgylchiadau a gofnodir uchod.