Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVIII. TAGU PRYDYDD

R wyf yn awr am gymeryd rhyddid i arwain y darllennydd i gael golwg hollol wahanol ar Domos Williams.

Er y gellir honni fod llawer o ryw fath o ddiniweidrwydd yn perthyn iddo—diniweidrwydd ymddangosiadol weithiau, efallai-eto, nid gŵr i chware ag ef ar un cyfrif oedd Tomos. Yr oedd ymhell o fod yn barod i gymeryd ei ddiraddio, hyd yn oed pe buasai hynny yn dwyn llog mawr iddo. Byddai yn rhaid i bwy bynnag a roddai hergwd iddo ymfoddloni i dderbyn un yn ei lle. Nid oedd efe, os tarewid ef ar un rudd, yn foddlon i droi y llall hefyd i'w ymosodwr. Credai efe yn lled bell yn neddf ad-daliad, a dewisai fyw i gryn raddau o dan gyfraith Moses, gan ddewis yn arwydd-eiriau iddo ei hun, "Llygad am lygad, a dant am ddant." Gan nad oedd Tomos, druan, yn ddim perffeithiach na dyn, y tebyg yw nad oedd gras ei hunan wedi ysgubo ymaith yr oll o'r milwr oedd yn ei gorff a'i enaid ar ddechreu ei yrfa. Mae y darllennydd eisoes yn gyfarwydd a rhyw gymaint o'i ddawn i dafodi. Dichon y byddai yn dueddol i gario y ddawn beryglus hon yn rhy bell o dan rai amgylchiadau a ystyrid gennym ni, o hirbell fel hyn, yn rhai di-bwys. Ond ei reol oedd,-"Tafoda di fi, mi tafoda inna ditha." A phan fyddai ei "fwnci i fyny," chwedl yntau, ni byddai ronyn o bwys ganddo ar bwy yr arllwysai engreifftiau o hy-