Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awdledd bras a chwerw ei da fod. Dyhidlai wermod ar gwnstabl, gweinidog, ficer, neu ustus gyda'r un rhwyddineb ag y gwnai ar bedlar cornwydlyd.

Yr oedd unwaith yn myned ar hyd y brif stryd yn Ninbych, a'i ysgrepan yn ei law, neu ar ei gefn. Cynhelid yno ffair fawr y diwrnod hwnnw, a daethai Tomos yno i wneyd busnes gyda'r math o lenyddiaeth oedd yn talu llawn cystal a dim y pryd hwnnw. Daeth brawd o brydydd i'w gyfarfod, ac heb un math o rag- ymadrodd, meddai hwnnw wrtho yn hollol ddi- fyfyr,-

"Yn ei fag sy gynno fo.
Pa lol fedd Capelulo?"

Mae'n sicr fod y ddau yn adnabod eu gilydd. Pa un bynnag a oedd y bardd o ddifrif ai nad oedd, bu i'r cyfarchiad anghariadus dwymo ysbryd Tomos Williams ar unwaith. Cydiodd gyda llaw o haearn yngwddf y prydydd, a dechreuodd wasgu yn araf, ond yn sicr, fel nad oedd iddo y gobaith lleiaf am fedru dianc. Wedi sicrhau digon o gynhulliad o gwmpas, a chan barhau i dynhau ei afaelion ar wddf y creadur dychrynedig, dechreuodd Tomos roddi'r ffrwyn i'w dafod. Dyma'r unig ddyfyniadau gweddus i'w cyhoeddi o'r bregeth,-

"Ho, fel yna 'rwyt ti yn y nghyfarch i, y sglodyn diffaeth! Faint sy ers pen ddôth dy dad yn ol o'r transport am smyglo baco a whisci? 'Dwyt ti, y poacher uffernol, ddim wedi molchi dy wymad ers pan ddois ti o jêl y Wyddgrug."