Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar hynny gwaeddai'r prydydd,-"Tewch, Tomos Williams, anwyl; bendith y nefoedd arno chi, tewch." Ond, gan roddi tagfa fwy effeithiol nag erioed iddo, gwaeddai Tomos hyd yn oed yn uwch nag o'r blaen,—

"Aros di, faint o holides gest ti am ddwyn wya phesants o Fachymbyd 'stalwm? Y chdi'n brydydd, wir! Ond ran hynny, os medar dy sort felldith di ddwyn wya a phoachio am bob math o game, mi fedri ddwyn prydyddiaeth hefyd. Ond un o frid yr hen Robin Nanclyn yna wyt ti. Ond pe daet ti'n dwyn pob pennill wnaeth yr hen deiliwr honco hwnnw yrioed, fasa fo ddim ods yn y byd gan neb." Llefodd y prydydd drachefn am i Tomos beidio insyltio Rhobat Dafis (Nantglyn), ac yr âi efe adre yn ddistaw.

Ond wedi i Domos gymeryd anadl, ychwanegodd ei nerth, a llefodd ymlaen mewn hwyl,—"Chei di ddim mynd o macha i ar frys Can fod y bobol yma yn gwrando mor dda, ac yn leicio dy weld ti yn sound yn stocs home made Capelulo, mae gen i chwaneg o frwmstan i'w dywallt ar dy friwia di. Y chdi'n brydydd, wir! Wnes di'r un rhigwm y basa hyd yn oed y domen sala yn Ninbach yma yn falch o'i gael. 'Dwyt ti'n ddim byd ond ffalsiwr digwilydd a llyfwr gwyneb i William Owen, Segrwyd, a'r hen Johanna fawr, fudr, glwyddog honno."

Yn y geiriau olaf o eiddo Tomos, fel y gall y cyfarwydd gasglu, gwneir cyfeiriad at y Doctor William Owen Pughe, yr hwn a fu yn preswylio yn y Segrwyd, ger Dinbych, ac at y wrach ynfyd honno, Joanna Southcott, yr hon a honnai ei bod ar fin rhoddi genedigaeth i