Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CAPELULO.

I. BORE OES.

TEG i mi ar y dechreu fel hyn, gael caniatad i ofyn i'r sawl a ddarllenno yr hanes hwn beidio ffurfio ei farn am holl hanes Tomos Williams oddiwrth y rhannau cyntaf o hono. Fel y mae waethaf, rhaid yw addef iddo dreulio y rhan fwyaf o lawer o'i oes ym mhyllau dyfnaf ac erchyllaf llygredigaeth. Ni bu gan y diafol ffyddlonach gwas yn Nyffryn Conwy, am ddarn helaeth o ganrif, na Thomos Williams. Ond pan oedd lliw ei wallt wedi newid, a'i gefn wedi crymu dan bwysau deg a thrigain o flwyddi, ei lygaid wedi pylu, a'i gam wedi byr- hau, penderfynodd newid ei feistr; ac ni chaf- odd le i edifarhau o'r herwydd. Megis yn swr torri ei fedd yr anturiodd Capelulo," druan, roddi ei ymddiswyddiad yn llaw y gŵr y bu yn gadben mor alluog ac adnabyddus ar faesydd ei frwydrau am gynifer o flynyddoedd. Nid oes amheuaeth nad oedd y diafol a'i angylion