Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn berffaith sicr yn eu meddyliau eu hunain y byddai Tomos Williams yn gwmpeini difyr iddynt; hynny yw, yn gwmpeini mor ddifyr ag y byddai yn bosibl i losgfeydd tragwyddol" ei wneyd. Gallwn feddwl fod cryn siomedigaeth yn rhigolau noethion ac hyd riwiau drycinog uffern, pan ddeallwyd fod yr hen Domos wedi mynd i "stesion rhad ras," fel y dywedai, a "chodi ticed "—y Meichiau wedi talu—am y Jerusalem nefol.

Goddefer i mi ddweyd, hefyd, nad oedd ar gychwyniad ei yrfa, o leiaf, nemawr ddim ysmaldod goddefol, neu droion chwithig carictor gwreiddiol, yn perthyn iddo fel i Shon Catrin, Robin Busnes, Bob Owen, Bilw Beech, &c. Yr oedd direidi Twm yn ddireidi pechadurus, ei ysmaldod yn ysmaldod peryglus, a'i chwithigrwydd yn un dieflig. Byddai pob gwrhydri a gyflawnai yn wrhydri a ddygai gysylltiad â phechod; ac os gwnai ddaioni ar ddamwain, byddai yn sicr o dalu iawn mawr i deyrnas y tywyllwch am hynny.

Mor agos ag y gwn, ganwyd Tomos Williams yn Llanrwst, rywbryd rhwng y blynyddoedd 1778 a 1782, a bu fyw hyd y flwyddyn 1855. Hannai ei deulu o le a elwir hyd y dydd heddyw Capelulo, yn agos i Ddwygyfylchi, ger Conwy, ac wrth yr enw hwnnw yr adwaenid ef ar hyd. a lled y wlad. Pan oedd Tomos yn fachgen, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y dref, ond arferent ymgynnull mewn rhyw dy ym Mhen y Groesffordd. Nid oedd gan yr un enwad Ymneillduol arall gapel yn y dref, ychwaith. Cafodd ryw esgus o ysgol ddyddiol, ond gadawodd hi cyn dysgu na darllen, na rhifo,