Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nac ysgrifennu. Meddai ceffylau a mulod ar fwy o atyniad i Domos nag ysgolion ac addoldai. A'r pryd yr oedd efe yn fachgen, ac yn wir ymron ar hyd ei oes, nid oedd son am dren i Lanrwst, felly yr oedd llawer iawn o geffylau a cherbydau yn myned yn ol a blaen drwy y dref bob dydd. Un o'r gorchwylion cyntaf a gyflawnwyd ganddo oedd dal pennau y ceffylau hyn, y rhai a safent o flaen y gwestai. Pan yn ddeuddeg oed, cafodd ei big i mewn i'r Eagles" i lanhau esgidiau a rhedeg negesau. Yr oedd yn y gwesty delynor o'r enw Wil Ellis, a phrif hyfrydwch Tomos oedd peri i'r hen frawd hwnnw golli ei dymer, a'i gân hefyd hwyrach, wrth ei boeni yn barhaus drwy ei ddynwared yn chwareu, a hynny gyda pheth mor ddiurddas ac ansanctaidd à choes brws. Byddai Tomos yn myned drwy y gamp hon bob dydd am un haf i ddieithriaid a arhosent yn y gwesty; a chan ei fod yn ddigon medrus i datlu ysbrydoliaeth hyd yn oed i goes brws, derbyniai ei giniaw a diod ganddynt bob dydd am yr haf hwnnw. Nid oedd ryfedd yn y byd fod y canwr telyn yn anfoddlon i fod mewn partneriaeth gyda choes brws-peth oedd yn dwyn cysylltiad mor agos a'r llawr.

O dipyn i beth, daeth Tomos i fod yn ostler yn yr "Eagles." Yr oedd, bellach, wrth ei fodd. Ystabl oedd ei blas, a'r ceffylau oedd ei gyd-chwareuwyr. Ni fynnai sylweddoli fod y gwahaniaeth lleiaf rhwng ei ymenydd ef ag ymenydd march. Onid oedd y ceffyl yn gallu cerdded, bwyta, yfed, a chysgu? A pha beth yn fwy, yn ei feddwl ei hun, a fedrai Tomos ei wneyd? Medrai y llanc, druan, chwyrnu