Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIX. DYWEDIADAU AC YMGOMIAU.

CYMERAF fy rhyddid yn y bennod hon i roddi ar lawr rai o ddywediadau Tomos Williams, heb drafferthu nemawr i eg- luro yr achos na'r achlysur o'u llefariad, gan obeithio y byddant yn eithaf hawdd i'r dar- llennydd eu deall.

"Mi glywis," meddai unwaith, "am ddyn yn yr India, ddaru osod trap yn ei ardd i ddal teigar, ddylsa fo, oedd yn dwad yno i ddwyn ffrwythydd bob nos; ac er syndod mawr iddo fo, pwy oedd y gynta i roi ei throed yn y trap ond ei wraig o'i hun. Fel yna, welwch chi, mae'n gelynion ni—y bobol fydd yn deud clwydda am dano ni, ac yn lladd arno ni—yn amal iawn yn ein hymyl. 'Does dim isio prynu teliscob i chwilio am danynhw, gan feddwl i bod nhw yn bell. Wyrach fod nhw'n byw yn yr un stryd a ni, yn y drws cosa i ni, ie, yn yr un ty a ni. Gelynion dyn, yn aml iawn, ydi i dylwyth o'i hun.'

Arferai Tomos am flynyddau lawer, fynychu ffair Llanbedr y Cenin, yr hon a gynhelid tua dechreu mis Hydref. Byddai ganddo "stondin" yno yn yr un lle, yn rheolaidd, bob blwyddyn. Ond ar ddiwrnod ffair un tro, cododd dyn o'r enw Abraham yn foreuach nag ef, a gosododd "stondin" o'i eiddo ei hun ar y llannerch oedd wedi ei gysegru i lenyddiaeth geiniog Tomos