Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams. Pan gyrhaeddodd y diweddaf yno. gellir dychmygu yn weddol yr hyn a gymerodd le yno. Aeth yn ffrae benben, heb " arweiniad i mewn o gwbl. Gwelodd Tomos, cyn y gallasai gael gan Abraham symud ei babell, mai da fuasai braich, beth bynnag am "faen, gyda'r efengyl." Cydiodd yng ngwarr y goresgynydd beiddgar, a chan roddi hergwd iddo ar draws y tabernacl a godasai, gwaeddodd dros yr holl bentre, "Cyn bod Abraham yr wyf fi."

Meddai rywbryd,-"Mi clywis i nhw'n deud yn y gwledydd lle mae grapes yn tyfu allan, fod ogla da y gwinllanoedd yn foddion i gadw i ffwr bob math o nadroedd a chyduriaid gwenwynig o'r fath. Fel yna y dylai Eglwys Iesu Grist fod-ogla da carictor ei haeloda yn codi oddiwrthi hi, fel na bydd yna berig i'r un Judas na Demas gynnyg dwad yn agos ati hi i geisio gneyd dim drwg iddi hi."

Dro arall, wrth siarad â nifer o fechgyn, dywedai,—"Watsiwch chi, hogia anwyl, rhag mynd i gypeini drwg. Y gair gora fedrwch chi ddeud mewn cypeini felly ydi, Codwn, awn oddiyma.'

Ers llawer o flynyddoedd yn ol, yn y Belmont, ger Llanrwst, trigai hen berson o deulu urddasol a chyfoethog, o'r enw Mr. Nannau Wynn. Os nad oedd Mr. Wynn yn gofalu rhyw lawer am eneidiau plwyfolion Llanddoged, yr oedd yn garedig iawn wrth eu cyrff. Nid oedd pregethu ond rhyw ail, neu drydydd peth, yn ei olwg. Mynd ar ol—nid pechaduriaid—ond