Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwnhingod, oedd ei gamp a'i ddifyrrwch ef. Chwysodd fwy mewn un prydnawngwaith o hela nag a wnaeth yn ei oes mewn pulpud. Yr oedd ganddo damaid o fwyd a chornaid o gwrw i bawb a alwai heibio ei blas; ac os digwyddai i unrhyw un o'r cyfryw fedru canu cerdd a thelyn, cawsai groesaw tywysog am wythnos ganddo. Byddai Tomos ac yntau yn lled hyf ar eu gil- ydd; a gellid meddwl, weithiau, eu bod ar fin cweryla; ond ni byddai yr hen berson daearol byth yn digio wrth y llall, gan nad beth a lef- arai hwnnw wrtho.

"Tomos," meddai Mr. Wynn wrtho un diwrnod, "pryd chdi dwad i'r Heclws?"

"Pan fyddwch chi ddim yno, syr," oedd yr ateb a barodd i'r person boddlon chwerthin nes hanner ymddryllio.

Dro arall, cymerai ymddiddan tebyg i hyn. le rhwng y ddau garictor dyddorol,-

TOMOS."Mi ewch i. uffern ar eich pen ryw ddiwrnod, syr. Dyda chi'n meddwl am ddim byd ond am y cwn hela yma o hyd."

MR. WYNN.-"Beth! Ti meddwl, Tomos, mae hen person fel fi i cael llosgi byth, for ever?

TOMOS.-"Wel na ddim cweit felly, Mistar Wynn; ond pan ewch chi i uffern, rhyw gael eich deifio yn ara deg am dragwyddoldeb y byddwch chi. Ond pe dasa chi yn mynd a bwndel o'ch hen bregetha hefo chi, mae rheini yn ddigon sych a chrin, nes y basa chi a nhwtha yn fflamio yn golcath gaclwm ulw cyn pen tri munyd."