Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MR WYNN.-"Taw! Cwilydd mawr, Tomos. Chdi dwad i'r ty, a fi prynnu cerddi di i gyd, a ti dal dy dafod wedyn.'

Yna ai Tomos i mewn i'r ty, ac yn ychwanegol at brynnu cerddi a rhoddi iddo gyflawnder o fwyd, rhoddai yr hen berson caredig het, esgidiau, côt gynnes, &c., iddo; ac yna, wrth gydgerdded drwy y buarth, cymerai yr ymddiddan a ganlyn le,-

TOMOS. Rhaid i chi, yn wir, syr, ddechra meddwl o ddifri am fater enaid, ne dewch chi byth i'r nefoedd."

MR. WYNN.--Take time, Tomos; chdi meddwl i dyn dwl, anwypodus fel ti, helpu fi, scholar mawr a person plwy, i mynd i'r nefoedd ?"

TOMOS. 'Dydw i ddim yn siwr, syr; ond mi wyddoch y medar cwch bychan bach roi dyn ar lan gwlad fawr iawn."

MR. WYNN (gan wenu yn foddlon).--"Very good, Tomos, yes indeed; chdi cymid hanner coron yma i cael cinio first rate ddydd Sul, a brysio yma eto."

Gan nad beth am ffaeleddau yr hen berson, gwelir yn hawdd nad oedd yn arfer cysgu dan yr unto â rhag farn a rhagrith.

Llefarai Tomos Williams sylwadau fel hyn ar un achlysur,-

Pan oeddwn i yn yr India, mi ddois i ddallt am sgiam oedd gan rai o'r llwytha mwya gwyllt i ddal eliffantod. Dyna oedd hi, mi fyddan yn llifio coeden fawr yn ei bôn jest