Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drwodd. Wedyn, ymhen tipyn, mi ddoi yna eliffant mawr o dan y goeden i mochel y gwres ne'r storm. Ond y funyd y rhoi o'i bwysa yn erbyn y pren, i lawr a hwnnw mewn chwinciad, nes i ladd o yn y fan. Yr un fath yn union y mae hi hefo ninna. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn, os gorffwyswn ni'n cefna'n hollol arno fo, i lawr y daw o yn bendramwnwg ryw ddiwrnod ar ein penna ni, nes y byddwn ninna yn deilchion o dano fo. Meddyliwch chi am y dyn hwnnw oedd am dynnu i lawr ei sguboria, ac yn mynd i roi ordors i fildio rhai mwy; pan rôth angeu symans yn i law o i atendio Seisys mawr tragwyddoldeb—Y nos hon y gofynnant dy enaid oddiwrthyt,'—dyna bob sgubor, stabal, a chadlas oedd ar ei helw fo, i lawr yn blith drafflith gyrbibion am ei ben o. Bobol! os oes gyno chi eisio lle i mochel gwres, ne i lechu mewn storm, treiwch Graig yr Oesoedd. Mae yno le saff rhag gwres y ffifar a chenllysg y Farn!'