Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XX. TOMOS AC I. D. FFRAID.

FELY mae yn eithaf naturiol i rai cynefin â Dyffryn Conwy yn y dyddiau gynt, ddyfalu, yr oedd y Parch. John Evans (I. D. Ffraid)-cyfieithydd Milton—a Tomos Williams yn adnabyddus a'u gilydd am flynyddau. Meddyliai Tomos y byd o Mr. Evans, ac, wrth gwrs, yr oedd yr "Adda Jones" ddoniol o lannau Conwy, yn edmygydd hyd at afiaeth ymron, o'r siaradwr a'r sylwedydd gwreiddiol o Lanrwst. Pan fyddai Tomos yn Llansantffraid—a byddai yno droion mewn blwyddyn rhaid fyddai i'r llenor a'r pregethwr gael rhoddi croeso goreu ei dŷ ger ei fron. Treuliodd y nos lawer gwaith yn nhy I. D. Ffraid, ac ar adegau felly, os digwyddai fod rhyw foddion yn y capel, arferai Mr. Evans fyned a Thomos yno. Ofer fyddai i mi wadu nad oedd gŵr doniol, a chyrhaeddgar ei ymadrodd fel I. D. Ffraid, yn cael llawer iawn o ddifyrrwch yng nghwmni dyn o stamp Tomos Williams; ond gwyddai efe yn dda pa mor bell i gario y difyrrwch hwnnw ymlaen. Eto, nid oedd yn bosibl i'r sant perffeithiaf gadw gwyneb gwastad wrth sylwi ar ambell dro trwstan o eiddo yr hen Domos. Aeth Mr. Evans ag ef unwaith i'r capel ar noson cyfarfod i weddio dros y Genhadaeth, a galwodd arno i gymeryd rhan ynddo. Anfynych y defnyddiai yr hen wr y Llyfr Emynnau. Ni byddai yn rhaid iddo ond crafu ei ben na ddeuai o hyd i bennill cyfaddas, yn ei dyb ef, i bob amgylch-