Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tybiwn fod y defaid a'r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth trawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau, ac amrywiaeth ei chymylau a'i llenni teneuon o niwl. Pan fo'r haul yn tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddisgrifiad; pan fachludo'r haul, cyll y môr ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae golwg ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad Cwsg. A nis gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl a tharth Harlech, a heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu goleuni disglair a thywyllwch dudew. Fel Spenser a Milton yn llenyddiaeth Lloegr, y mae'n hoff o ddisgrifio goleu tanbaid neu'r fagddu ddilewyrch. Efe yw Rembrandt llenyddiaeth Cymru. Dacw belydryn yn gloywi o'r tu hwnt i gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y Bardd Cwsg pan weddïodd yng ngafael y Tylwyth Teg, — "Gwelwn ryw oleuni o hirbell yn torri allan, O mor brydferth!"

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell Harlech. Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi ei helpu i ddychmygu am y ceulannau a'r dibynnau y gwelodd daflu'r colledigion drostynt yn ei Uffern. A'r ffrwd acw, tybiaf i mi weled darlun o honni fel un o raiadrau