Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edrych ar ddyffrynnoedd fel dyffryn Nancol; ac i'w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno, yr oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn. Yn ei freuddwydion y mae'r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle gwelai'r colledigion, a'r ysbrydion aflan

"a phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel. Oddi yno cipid hwy ymhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ôl i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd, a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele."

Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y dadlennir y darlun erchyll i gyd, —

"Tu isaf i'r gell yma gwelwn ryw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o domennydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn nesáu gwybûm wrth eu hudfa mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau cethin yn clecian trwyddynt."

Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn. Y mae'n amhosibl cael darluniad mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd yn oed ym mhregethau'r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef. Ac nid arbed y boneddigion na'u cynffonwyr. Ychydig o lafurwyr welodd yn uffern; ac o'r rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu'r degwm, yr oedd eraill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn boneddigion. Oes y boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd yn rheoli mewn llan a llys. Hwy oedd yn y fyddin,