Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anadlai gwynt braf o'r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe buasai'r gaeaf yn dod i ddweud ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod. Yn ôl yr oedd hafanau o borfa lâs rhwng creigiau, a'r môr tawel dwfn islaw. Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf muriau, megis wedi eu codi drwy hud. Ac yr oedd gwenau'r haul yn aros ar flodau gwylltion ochr y ffordd. Ffordd eithaf unig ydyw, yr oedd yn pasio tŷ bychan adfeiliedig o hyd. Yr oedd y tai hyn yn sefyll yn y lleoedd mwyaf dymunol,- dan gysgod craig neu ar lan aber wyllt,- ond y mae eu preswylwyr wedi mudo, mae'n debyg, i'r tai mwd newyddion sy'n codi megis cabanau unnos, o amgylch Cricieth. Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda'r glaswellt yn prysur orchuddio'r graean, fel pe buasai'n arwain at balas anghyfannedd.

Wrth Fron y Gader, troesom o'r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr i gyfeiriad y môr. Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y teithiem ymlaen. Cawsom ein hunain mewn morfa hir. Braich o'r môr oedd unwaith, mae'n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur y gilfach a daear. Yr oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac yr oedd gwair yn ei ystodau yn sychu'n braf. O ganol y morfa cyfyd bryn bychan, bryn fu'n ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem eglwys ddiaddurn. Dyna