Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Troesom i dy hen ffasiwn a'r enw "Temperance" wrth ben ei ddrws. Tra bo'r tegell yn berwi, buom yn edrych ar lun llongau oedd hyd y mur, ac yn sgwrsio a'r cwsmeriaid oedd yn dod i'r siop pob peth. Yr oedd y cloc awr yn rhy fuan, yr oedd Beibl a llyfr emynau ar y bwrdd, ac yr oedd cylch o addurniadau o amgylch carreg y llawr. Gwnaeth y wraig garedig dê da, ac nid oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta'n ddi-baid.

Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog. Gwelem eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac yna collodd y môr o'n golwg. Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd lychlyd, ac yr oedd yn mynd yn boethach o hyd.

O'r diwedd daeth y lle i droi o'r brif-ffordd i ffordd gwlad. Yna cawsom gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn tyfu dan eu cysgod. Arweiniai'r ffordd i fyny o hyd, ac oddi tanom yr oedd nant,- gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac oherwydd fod brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen. Chyraeddasom ben y golwg, a daethom o'r coed. Yr oedd y tawelwch yn adfywiol annisgrifiadwy,- nid oedd yno ond su pell y môr a sain ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn codi ar ael y goleu. Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Llŷn yn y pellter y tu hwnt iddo. A