Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedodd fod croeso inni weld y tŷ. Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino. Daethom yn ffrindiau mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed. Yr oedd y gwartheg yn y fuches, ond cawsom dê dan gamp. Yna cawsom weled holl ystafelloedd cartref y telynor. Hen amaethdy clyd ydyw'r Garreg Wen. Tŷ hir ydyw, a'i dalcen i'r graig, yn un uchder llofft. Y mae adeiladau o'i gwmpas bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe ar silffoedd craig, a choed ffrwythau. Oddi amgylch tyfa gwynwydd a phys llygod a phob blodeuyn gwyllt. A thraw wrth gefn y tŷ y mae craig,- hwyrach mai hon ydyw'r Garreg Wen,- yn cysgodi'r tŷ rhag gwynt yr ystormydd. Yr oeddwn wedi clywed mai wrth garreg ar ben y mynydd y cyfansoddodd Dafydd "Godiad yr Ehedydd." Dywedwyd wrth enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos y garreg. Yr oedd yr olygfa'n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i gae, a dyma ddiwedd sgwrs fu rhwng yr enethig a minnau,--"

"Fedri di ganu?"

"Medra."

"Fedri di ganu 'Dafydd y Garreg Wen' i mi? Neu 'Godiad yr Ehedydd'?"

Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.

"Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?"

"Ydw."

"Wyt ti'n dysgu canu Cymraeg?"