Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TYDDEWI.

"Cystal am ofal im yw
Fyned deirgwaith i Fynyw,
A myned, cynired cain,
Ar hafoed hyd yn Rhufain."
IOLO GOCH.

Yr oedd wedi taro chwech o'r gloch y bore ers pymtheng munud neu well pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcl addurnedig i gadw'r awenau yn eu lle. Naw o'r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi gadael Llundain a'i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore'n torri ar fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol, heddwch a sudda fel balm i enaid y neb a hir edrycho arnynt. Heddwch y mynyddoedd, - dyna feddyginiaeth meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr. Aml y teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.

Ar hyd y daith nos bûm yn breuddwydio'n anesmwyth yn y trên. Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw anghyfannedd, - yr oedd Caerloyw wedi ei hanrheithio gan bla, a'r glaswellt yn tyfu ar hyd ei