hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y mor, a dim ond rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o'r tonnau oer brig wynion; yr oedd adfeilion anferth Caerdydd yn goedwig o eiddew a mieri, a'r môr wedi cilio oddi wrth ei glan. Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar fae Abertawe, er mai prin y medrai'r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du oeddwn wedi gadael ar fy ôl. O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy nhaith.
Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun. Rhaid oedd treulio'r ddwy noswaith yn y trên, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio'r diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi. Bu pererinion dirifedi'n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi; oherwydd yr oedd mynd yno deirgwaith mor haeddiannol a phe'r eid dros dir a môr i Rufain ei hun, - ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd corff, yr un heddwch meddwl. Ac i'r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw'r traddodiad nad oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.
Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio'r cnawd oedd amcan fy mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gaeaf, a buaswn wedi cerdded dros yr holl fryniau tonnog sy'n