Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynau, dim hanner cymaint â chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddi wrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen ŵr, "a dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu."

Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, tŷ tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Es i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd, -"Ie, dacw gofgolofn yr hen Ann." Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith ar hugain oed.

Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad, - nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref, - a bûm yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathro yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisiau cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y