Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dod i'w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae. Yna ymegyr ei hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig. Er bod ôl atgyweirio arni, meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth. Yr oedd rhyw geinder a heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol annwyl. Draw heibio'r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion. Ond na feddylier ei fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig. Y mae llaw amser wedi rhoddi prydferthwch digymar arno. Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni henafol, y wisg iorwg,- ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor brydferth?

Rhed aber tryloyw o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adref o'r capel, drwy'r dyffryn bach tlws tua'r môr. Nid rhosynnau na blodau gardd sy'n tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,- llysiau'r mêl a cheilys yr eithin, blodau'r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair. Ac y mae'r dyffryn yn ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd. A meddyliwn y gellid dweud am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid Dewi, -

"Angylion nef yng nglan nant."

Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn genhadwr i bregethu'r efengyl i baganiaid Dyfed. Ar lan yr aber dlos tryloyw, sy'n murmur mor ddedwydd