Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag erioed drwy'r adfeilion, y bu Dewi'n cydweddi a'i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru'n eiddo iddo. Ac ychydig feddyliai'r sant yr adeg honno, y mae'n bur sicr, y doi frenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob holl Gymru. Bump neu chwe chan mlynedd ar ôl ei farw, pan oedd ffafr yr eglwys Gristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn annibynnol ar Eglwys Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd Dewi Sant; a hir y brwydrodd i ailennill i Eglwys Cymru ei hannibyniaeth hwn. Wedi darostwng esgobaethau Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin y Saeson, aeth Tyddewi yn anwylach i'r Cymry o hyd. Pan gododd Glyn Dwr ei faner, yr oedd yn meddwl am wneud Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o'r fangre hyfryd. Lecyn prydferth a thawel, y mae gŵyr gorau Cymru wedi bod yn hiraethu am yr iechyd a'r tawelwch geir ynot. Ynot ti y gorwedd Dewi Sant a Gerallt Gymro a William Morris. A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon gloyw, ac ar dy flodau gwylltion.