NODIADAU.
I
Tybed fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro dros fynyddodd annwyl ein gwlad? A yw daear gwlad ein tadau ychydig yn fwy cysegredig i rywun ar ôl darllen y peth ysgrifennais?
Ein gwlad ni ydyw. Y mae wedi ei chysegru a hanes ein cenedl. Ynddi hi y gorwedd ein tadau; mae eu beddau'n sancteiddio'i daear, o fedd Owen Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg bryniau hyfryd Gwent. Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant ynddynt, llawn o fywyd a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt; onid gwaith da yw dangos i'r plant gyfeiriad camau y rhai gychwynnodd o'r cartrefi hynny o'u blaen?
II
Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser. Y mae hunanaberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio ynddo,?? llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa'r hen lid teuluol sy'n chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw. Yng ngrym