Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei wladgarwch y mae nerth pethau gorau cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y mae'r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,?? awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn, rhagfarn. Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch? Os felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson erioed? Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw? Os felly condemnier Dante, y gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau'r Canol Oesoedd fyw byth.

III.

Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni. Dinod, - anadnabyddus yn aml,?? yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi llawer o gofgolofnau i'w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch. Ond y mae'r cartrefi'n aros. Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom ba le y buont yn chware pan yn blant.

Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru'n gyflawn heb amgueddfa genedlaethol. Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.

IV.