"I'r Oriel Wen daw tyrfa lan,
O oes i oes, i wenu'n gu
A'r delwau gwyn y dewrion hyn,—
Y tad a'i fab, y fam a'i merch,
Y llanc a'i rian wylaidd rudd,
A'r gwron hen yn fyr ei gam,
A'i ben yn wyn gan flodau hedd,
A'r byd o'i ôl a'r nef o'i flaen,
A'i ŵyr bach gwrol yn ei law
A'r byd a'i droeon fyrdd i'w gwrdd,—
'Gwêl yma, blentyn, dyrfa gain,
Gwroniaid dewr anfonodd Duw.
I fyw a marw er ein mwyn.
CARADOG hwn, yn hawlio'n hyf
Ei serch i'w fwthyn tlawd a'i wlad
O flaen gorseddfainc teyrn y byd.
A llyma LLYWARCH HEN y bardd,
Yn gwyro'n drwm ar faglau pren,
Ag enaid arwr yn ei wedd
Yn gwylio'r rhyd ar fedd ei fab.
Ac wele drindod fu yn dwyn
Yr enw Owen, mwyn ei sain,—
Y cyntaf yn canu 'i hirlas gorn;
Y llall a llain yn medi'n ddwys
Ym maes Coed Eulo; 'r olaf un,
Gwr hir y glyn, 'a gwaew o dan,
Dyred, dangos dy darian.'
Ab Einion draw yn gwylio'r aig
A thelyn Harlech yn ei law.
Saif yma ddau, O enwau per,—
Llywelyn Fawr wnaeth Gymru'n un;
A'i ŵyr ef, olaf llyw ein gwlad,
Ei fywyd drosti 'n aberth roes,
A chwyn yr awel fyth ei frad
Ar fryniau Buallt—lleddfus don."
—R. BRYAN.
Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/146
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon