Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhedais drwy'r glaw bras trystfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y mae amryw fforddolion fel y finnau wedi troi i mewn am nodded ar fy ôl, ac mewn hwyl sgwrsio a mi. Treiais dynnu sgwrs am ysbrydion a rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,- yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i Amen yng nghanol sgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o'i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Siân Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryd y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde'n sôn am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebe'r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r hen wraig. Yr oedd y Siân Hughes honno, os nad wyf yn camgymryd, yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynau Ann Griffiths.

Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen ar ei