Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, —

"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."