Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TY COCH

Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Fychan, ac anaml iawn y bu i neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei ieuenctid; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r tŷ to brwyn yn yr hwn y dioddefodd eisiau bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml dro.

Saif y Tŷ Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloyw, yn ymyl hen ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Drawsfynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o orsaf Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac awel iach oddi ar eithin a grug y mynydd.

Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch