Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw M. P. a'r dyddiad 1667 ar ran cymharol newydd ohono. Yr oedd ei gefn atom, a throesom am ei gornel i gael golwg ar ei wyneb. Cawsom olwg hen a phatriarchaidd iawn arno. Gwelais ar unwaith mai o'r drws acw ac ar hyd y palmant hwn y doi archddiacon Meirionnydd pan ar ganol rhoi'r salmau mewn Cymraeg mor felodaidd. Lle tawel a chlyd ac unig yw. Y mae'r tŷ a'i dalcen i fryn caregog serth. Ar ben y banc y mae mur, a'r coesgoch yn tyfu gyda'i waelod, a choeden onnen yn gwyro uwch ei ben. Pan droesom am y gornel, yr oedd y mur a'r bryn yn union o'n blaenau. Ar y chwith yr oedd wyneb y tŷ. Yr oedd y drws yn isel, yn debycach i ddrws y dewin nag i ddrws archddiacon, ac yn hen iawn; yn amser ymosodiadau ar dai y cynlluniwyd drysau felly. Yn wyneb hir y tŷ yr oedd un ffenestr; ac un arall wedi ei chau yn amser y dreth ar ffenestri. Ar gyfer y tŷ, ac yn wynebu ato, yr oedd hen dy hyn fyth, wedi ei droi yn dŷ mawn. Rhwng y ddau yr oedd llawr o graig neu o balmant, oddigerth lle tyfai blodau cochion mawr o flaen y tŷ mawn. Safasom ger drws y tŷ i weled pa olygfa geir o hono. Yr oedd pinwydd duon yn ymyl, ac yr oedd awel ysgafn yn gwneud iddynt ysgwyd yn araf, fel hen wragedd y seiat dan awelon o Seion, fel pe buasent yn clywed sŵn y Salmau byth. Rhwng y pinwydd hyn gwelem