Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fynyddoedd ardderchog,- fel y mil o fynyddoedd y sonia'r Beibl am danynt.

Ond yr oedd yn bryd troi i'r tŷ. Yr oedd y gŵr wedi dod allan atom,- gŵr caredig prysur,- a rhaid i ffarmwr fod yn brysur iawn i fyw yn y dyddiau hyn, pan mae prisiau pob peth mor isel. Aethom i mewn dan y garreg fawr sy'n gapan i'r drws. Yr oedd cyntedd hir o'n blaenau, yn mynd ar draws y tŷ i gyd. Ar ein de yr oedd palis pren, a drws tua'i ganol. Troesom trwy'r drws hwnnw i gegin eang, gyda nenfwd isel hen ffasiwn. Yr oedd y llawr yn lan, fel yr aur, ac yr oedd golwg clyd ryfeddol ar y gegin. Draw ar ein cyfer yr oedd y simneiau fawr hen ffasiwn, a'r tân mawn, a'r crochanau.

Yr oedd plismon yn y tŷ, yn nillad ei swydd. Nid am fod drwg- weithredwyr yng Ngerddi Bluog yr oedd wedi dod, ond oddi ar ysfa lenyddol. Y mae aml blismon yng Nghymru'n llenor; ac yr oedd hwn yn dod o gyffiniau llenyddol Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y tu ôl iddo, gan sythed ag yntau, gwelwn gloc enwog Edmwnd Prys. Cas hir, o onnen, debygwn, yw cas y cloc. Nid yw'n mynd,- nid oes ohono ond pen a chas. Ni fynnwn daflu anghrediniaeth ar hen draddodiad, yn enwedig pan fo'r Glas Ynys wedi ei wneud yn destun can; ond paham na fuasai'r "Morgan Price of Gerthi Blyog," dorrodd