Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei enw arno yn 1734, yn torri ei enw ar rywbeth heblaw'r hen gloc.

Mam yn Israel oedd gwraig Gerddi Bluog, gallaswn feddwl. Gadawodd i ni weld yr holl dy, a mynd i'r llofft i weled pren gwely Edmwnd Prys. Aethom i fyny hyd risiau derw troellog, nes dod i'r llofft lle mae'r gwely. Beth bynnag am y cloc, nis gall fod amheuaeth am y gwely. Gall ei dderw du treuliedig fod yn llawer hyn nag Edmwnd Prys, er feallai fod y pyst wedi eu torri yn ei amser ef neu wedyn. Uwch ben lle'r gobennydd y mae'r pren wedi ei rannu'n banelau ac y mae ysgrifen o gwmpas y panel canol rhywbeth yn debyg i hyn,- E. P., 1592. O'm rhan fy hun, gwell gennyf i na dim yw edrych ar y golygfeydd y bu rhai enwog ein gwlad yn edrych arnynt. Ond, er hynny, yr oedd rhyw foddhad imi deimlo fy mod wedi gweld y gwely y bu Edmwnd Prys yn cysgu ynddo, a'r cloc allasai fod wedi tipian llawer cyn i Forgan Price dorri'r ffigyrau 1734 arno. Ond fy awydd oedd crwydro o gwmpas y Gerddi Bluog.

Yr oedd y diwrnod haf yn ddiwrnod tlws. Penderfynasom dynnu i fyny'r mynyddoedd yr ochr arall i'r Cwm Bychan, i weled y grisiau wnaeth y Rhufeiniaid, ac i gael golwg ar gartref a gwlad Edmwnd Prys. Gwrthodasom fwyd, heblaw llefrith i'w gofio; gan addo dod yn ôl at de.