Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymgollais yn y rhai hynny hyd nes y daeth gŵr y gwesty i ddweud fod y tân bron a mynd allan. Cefais hanes y wlad ganddo, yn grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr Arminaidd. Cefais bob manylrwydd hefyd am y ffordd orau i gyrraedd Pant y Celyn. Yr oedd pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un tŷ, a thybiwn unwaith, gan eu bod hwythau'n mynd i'r un cyfeiriad, y medrem cyd - logi cerbyd. Ond, erbyn cael ymgom, trwy ŵr y tŷ, nid oeddynt hwy wedi clywed gair erioed am Williams Pant y Celyn. Yr oeddynt wedi clywed llawer o sôn am Dwm Siôn Cati, ac i chwilio am ei ogof ef yr oeddynt yn mynd. Pe buasai Twm Siôn Cati yn ei ogof, os gwir pob stori, ni fuasai'r brodyr hyn mor awyddus am fynd yn agos ati.

Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd cerbyd wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i'm cludo tua Phant y Celyn. Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd oedd cael ystori o honno. Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i minnau edrych o'm cwmpas, a meddwl am emyn ar ôl emyn ddoi i'm cof wrth deithio ymlaen hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd. Rhedodd y merlyn, a'i fwng yn yr awel, hyd y ffordd o'r orsaf i'r dref, heibio i ysgol Llanymddyfri. Yna trodd am y gornel tua'r gogledd; gan fynd yn chwyrn trwy'r brif ystryd.