Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gadawsom gapel prydferth ar y chwith, capel coffadwriaethol Williams Pant y Celyn, - capel Saesneg ysywaeth. Ymhen tipyn, wrth fynd o'r dref i'r wlad agored, yr oeddem yn pasio adeilad arall. Ar y de yr oedd hwn, ac yr oedd golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a'i dlodi. Gofynnais i'r gyrrwr a'i hwnnw oedd tŷ'r Ficer, a dywedodd yntau mai ie. Dol werdd lydan a Llanfair ar y bryn i'w weld drosti, — dyna welsom gyntaf wedi gadael y dref. Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y claddwyd Williams. Collodd Llanfair ar y bryn o'n golwg, a dilynasom ffordd wastad hyfryd gydag ymyl y ddol a than gysgod bryn creigiog. Daethom i gwm cul, lle'r oedd yr afon wedi torri ffordd iddi ei hun i adael y mynyddoedd. Dyma ddol wastad eto, a choed o boptu iddi, lle hyfryd ddigon. Dacw fynydd yn codi o'n blaenau; daeth awydd canu drosom, -

Ar ddisgwylfa uchel gribog
Disgwyl 'rwyf er's hir brydnawn,
Edrych am yr hindda hyfryd
'Nol cawodydd geirwon iawn,
Ac i'm hysbryd,
Trwy'r cymylau, weld y wlad.

Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan niwl llwydlas. Fel yr oeddem yn agosáu at y mynydd hwnnw, daeth awel o'r de, a dechreuodd y niwl dorri a chilio. Llawer gwaith y gwelodd yr emynnwr