ysgafn tyner o niwl. Llawer gwaith y bu Williams yn syllu arnynt oddi ar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei emynau gorau mor llawn o honynt.
Rwyf yn gweled bryniau uchel
Gwaredigaeth werthfawr lawn,
O na chawn i eu meddiannu
Cyn machludo haul brydnawn;
Dyma'm llef tua'r nef,
Addfwyn Iesu, gwrando ef.
Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua bryniau ei gartref oddi ar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o fynyddoedd welem y tu hwnt iddynt, -
Rhwng cymylau duon, tywyll,
Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
Mae fy ffydd yn llefain allan, -
'Dacw o'r diwedd dy fy Nhad.
Digon, digon!
Mi anghofia'm gwae a'm poen.
Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad. Rhed y cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn coediog, gyda chapel bychan uwch ben y nant. Capel Annibynwyr Pentref Tygwyn ydyw, ac y mae'r dyddiad 1719 arno. Ni chefais fawr o amser i edrych arno, ond yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o Lanymddyfri, fu'n pregethu am bymtheng mlynedd a deugain.
Wedi gadael y pentref bychan hwn, yr oedd rhiw serth o'n blaen; ac erbyn i mi ddod o fynwent