Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwith i lawr ffordd serth, a gwelem ffordd union o'n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar ei draws, fel cadwyn wedi ei thaflu drosto. Ond ychydig ymlaen fedrem weld, gan y niwl a'r gwlaw. Mynych ddymuniad oedd am i'r niwl godi, ac am gael gweled gogoniant y wlad, -

Rwyf yn dechrau teimlo eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw
Gyda'r awel bur yn hedeg,
Diau fod y wlad ger llaw,
Tyrd, y tir dymunol hyfryd,
Tyrd, yr ardal sydd heb drai.
Dy bleserau o bob rhywiau
Gad im bellach eu mynhau

A chyn bo hir daeth awel eilwaith o'r de, ysgafnhaodd yr awyr, a gwelem rimyn glas o fynyddoedd pell o'n blaen. Yr oedd y ffordd erbyn hyn yn debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn dirwyn i fyny hyd ochr bryn serth. Wrth i ni godi i fyny, yr oedd yr olygfa'n ehangu o hyd, gan roddi teimladau hyfryd i ninnau, a gwneud inni feddwl ein bod yn gadael gwlaw a'r gelltydd serth ar ein hol —

Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,
Yn anadlu awel bur,
Ac yn ysgafn gario f'enaid
Draw i fryniau Canan dir;
Aeth y gaeaf garw heibio,
Darfu'r oer dymhestlog wynt;
Na ddoed mwy'r cawodydd duon
I fy mlino i megis cynt.

O'r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y bryniau dan orchudd