Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhan o fywyd Cymru, ac wedi gwneud iddo esgor ar ddeffroad cenedl, - deffro i feddwl ac i fyw. Fel cydoeswyr Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai cydoeswyr Williams Pant y Celyn arno fel y bardd na'r meddyliwr mwyaf yn eu mysg. Barnent ei emynau gan gofio am anawsterau cynganeddu, - gwaith, o fawr ofal Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na cheisiodd efe ei wneud.

Yr oedd mwy o ramadeg yn emynau Thomas Jones o Ddinbych a mwy o gynghanedd yn emynau'r gŵr rhyfedd athrylithgar o Ramoth, ond Williams ydyw'r per ganiedydd er hynny. Clywais fod Dr Edwards wedi chwilio am un i ysgrifennu erthyglau ar emynau Pant y Celyn, a'i fod wedi gofyn i Eben Fardd ymgymryd a'r gwaith. Safodd Eben Fardd uwch eu pennau fel gramadegydd. Gwrthododd Dr Edwards ei feirniadaeth, a gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd. Clywais ddweud fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai'n well iddo fod wedi aros mwy uwchben ei linellau, i'w gloywi gogyfer a'r beirniad gorfanwl byr ei lathen ddeuai gyda'r oes wannach oedd yn dod ar ei ôl. Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir am Geiriog, - ac y mae'n dangos mor ddiwylliedig ag mor fas ydyw tir meddwl y rhai a'i dywed.

Ond dyma ŵr tŷ Pant y Celyn. Diacon