gyda'r Annibynwyr ydyw, ac un diddan iawn ei ystori. Gwyddai hanes John Penri'n dda, ac yr oedd yn cofio'r Siartwyr yn y De. Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn rhyw eithafol iawn, dywedodd, gyda gwen chwareus yn ei lygaid, ei fod yn talu'r degwm fel yr oen. Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda'i dipiadau trymion, yn mynd mynd ar ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond ychydig iawn. Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu'r emynwr ym Mhant y Celyn o hyd.
Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar lawer emyn. Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel y deheu, fel y teimlaf finnau hi'n awr, ac yn ei chroesawu, —
Deuwch yr awelon hyfryd,
Deuwch dros y bryniau pell,
Dan eich aden dawel, rasol,
Dygwch y newyddion gwell;
Dygwch newydd at fy enaid, -
Fy enaid innau yno gaed,
Dedwydd enw'n argraffedig
Yn yr iachawdwriaeth rad.
Yma y bu'n disgwyl am y gwanwyn, ac am yr awel dyner o'r de, -
Na'd i'r gwyntoedd cryf dychrynllyd
Gwyntoedd cryf y gogledd draw,
Ddwyn i'm hysbryd gwan trafferthus
Ofnau am ryw ddrygau ddaw;
Tro'r awelon
Oera'u rhyw yn nefol hin.