dim i Ieuan Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy flwydd oed,- ond anfonodd Rhagluniaeth ryw ffermwr yno mewn pryd. Y mae Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y Garneddwen,- y mynydd sy'n gwahanu dyffryn y Dyfrdwy oddi wrth ddyffryn yr Wnion. Y mae'n bur neilltuedig, mewn cwm main, a gelltydd coediog bob ochr. Yn awr y mae'r ffordd haearn yn mynd heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr. Ond unig a thawel ydyw eto. Y mae dwy aden i'r tŷ, a chanol, y canol yn dy annedd, a'r adenydd yn ysgubor a beudy. Wrth ei gefn y mae coed a ffridd serth y Celffant. O'i flaen y mae cae bryniog dymunol. Oddi ar y cae gwelir yr Wnion fechan islaw, a'r Wenallt goediog ar gyfer. Gwelir agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros ddraenen y cymerodd rhywun lawer o ofal gyda'i thyfiant.
Ond gadewch i ni fynd i'r tŷ. Y mae ynddo wraig garedig, siaradus, a doniol dros ben,- Annibynwraig bid siŵr. Awn i fyny gris neu ddwy, a dyna'r gegin ar y de. Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio a cherrig bychain. Yr oedd yna dân braf o dan y simnai fawr, a'r tegell yn berwi ar gyfer y cynhaeafwyr gwair,- yr oedd y glaw wedi gorchuddio'r fro erbyn hyn, a'r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.
Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded. Nid oedd yn cofio llawer am y lle; ond yr oedd