yn cofio'r diwrnod mudo i'r Tŷ Croes, er nad oedd yn ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario "ystôl mam" ar draws yr aelwyd. Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y magwyd ef gan ei dad, ac y cusanwyd y "bachgen bach" gan ei frawd. Ddangoswyd y "siambr" imi hefyd, yr ochr arall i'r drws, lle ganwyd Ieuan.
Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni. "Amgylchais y tŷ yn ôl ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned ôl a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw. Yno ym brys-fedyddiwyd rhag fy marw'n ddifedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milltir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynof y gannwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrennau, ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd."
"Ffordd i'r bedd," a'r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd byr a brau Ieuan Gwynedd.