Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro a'r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu argyhoeddiad i emynwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o boptu i aber Enig, a helyg ac ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddi amgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd twr ysgwâr yr eglwys i fyny'n uchel ac yn hyf, i ddangos ysmotyn mwyaf cysegredig y fro ddiddorol a phrydferth hon. Y mae'n bedwar o'r gloch ar gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad ffrwythlon dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu f'enaid innau wrth nesáu at y fynwent; a su hen ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi'r distawrwydd ar nawn haf. Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur beirniadu ynof i gael poen oddi wrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda'u llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent.

Sefais, ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw Hywel Harris. Carreg fedd ei dad oedd. Ar hon y dywedir fod Hywel Harris yn pregethu