Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i glywed ei alwad ef ei hun. Y mae'r llythrennau mor berffaith ag oeddynt pan safai Hywel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei newyddion rhyfedd. Yr oedd gwirioneddau'r byd tragwyddol mor fyw o'i flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o'i gwmpas. Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a branciant fel wyn defaid, a welai ef. Ond maddeuer i mi, o gyneddfau gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa. Y mae'n araf godi o'm blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynwr a gwŷs oddi uchod.

Dacw Hywel Harris ar y garreg fedd, a'i lais yn ddychryn i'r dyrfa sy'n gwelwi o'i flaen. Dacw ŵr ieuanc ar ei ffordd adref o'r ysgol wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu'n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw. O flaen y pregethwr y mae chwech ywen mawreddog, - y maent yno eto yn eu duwch wylofus,- a thref Talgarth. Uwchben dacw'r Mynydd Du; ac o amgylch y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar Gymru o'r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed. Es ymlaen trwy'r fynwent, ac at ddrws yr